33 Byddi bob amser yn gallu gweld os ydw i wedi bod yn onest. Gelli archwilio fy nghyflog unrhyw bryd. Os bydd gen i afr sydd ddim yn frith, neu ddafad sydd ddim yn ddu, byddi di'n gwybod fy mod i wedi dwyn honno.”
34 “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.”
35 Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arnyn nhw). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau.
36 Aeth â nhw daith tridiau i ffwrdd oddi wrth Jacob a gwnaeth i Jacob ofalu am weddill y praidd.
37 Wedyn dyma Jacob yn cymryd brigau gleision o goed poplys, almon a phlanwydden. Tynnodd beth o'r rhisgl i ffwrdd fel bod stribedi gwyn ar y gwiail.
38 Rhoddodd y gwiail o flaen y cafnau dŵr ble roedd y preiddiau'n dod i yfed. Roedd yr anifeiliaid yn paru pan fydden nhw'n dod i yfed.
39 Pan oedd y geifr yn bridio o flaen y gwiail, roedd y rhai bach fyddai'n cael eu geni yn rhai brith.