40 Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban.
41 Pan oedd yr anifeiliaid cryfion yn paru, roedd Jacob yn rhoi'r gwiail wrth y cafnau, er mwyn iddyn nhw fridio wrth ymyl y gwiail.
42 Ond doedd e ddim yn gosod y gwiail o flaen yr anifeiliaid gwan yn y praidd. Felly roedd yr anifeiliaid gwannaf yn perthyn i Laban, a'r rhai cryfaf yn perthyn i Jacob.
43 Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod.