6 “Mae Duw wedi dyfarnu o'm plaid i,” meddai Rachel. “Mae wedi fy nghlywed i, a rhoi mab i mi.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Dan.
7 Dyma Bilha, morwyn Rachel, yn beichiogi eto, a rhoi mab arall i Jacob.
8 A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali.
9 Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob.
10 A dyma Silpa, morwyn Lea, yn cael mab i Jacob.
11 “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad.
12 Wedyn cafodd Silpa ail fab i Jacob.