8 A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali.
9 Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob.
10 A dyma Silpa, morwyn Lea, yn cael mab i Jacob.
11 “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad.
12 Wedyn cafodd Silpa ail fab i Jacob.
13 “Dw i mor hapus!” meddai Lea. “Bydd merched yn dweud mor hapus ydw i.” Felly dyma hi'n ei alw yn Asher.
14 Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?”