1 Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar ein tad ni. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw.
2 A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd.
3 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.”
4 Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i'r wlad lle roedd y preiddiau.
5 Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi.
6 Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad.
7 Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi.