10 “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion.
11 A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau.
12 ‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di.
13 Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’”
14 A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad.
15 Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e!
16 Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi ei ddweud wrthot ti.”