16 Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi ei ddweud wrthot ti.”
17 Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod.
18 Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan.
19 Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio ei ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol.
20 Roedd Jacob hefyd yn twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho.
21 Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead.
22 Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd.