19 Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio ei ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol.
20 Roedd Jacob hefyd yn twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho.
21 Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead.
22 Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd.
23 Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead.
24 Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd i fygwth Jacob.”
25 Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd.