30 Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?”
31 A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Roeddwn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i.
32 Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd piau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi eu dwyn nhw.)
33 Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel.
34 (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw.
35 A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu.
36 Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi ei wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma?