37 Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni.
38 Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta.
39 Os oedd rhai wedi eu lladd gan anifeiliaid gwylltion wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos.
40 Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg.
41 Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro.
42 Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”
43 Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant?