39 Os oedd rhai wedi eu lladd gan anifeiliaid gwylltion wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos.
40 Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg.
41 Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro.
42 Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”
43 Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant?
44 Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb gyda'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.”
45 Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn.