44 Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb gyda'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.”
45 Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn.
46 Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno.
47 Galwodd Laban y garnedd yn Jegar-sahadwtha a galwodd Jacob hi'n Gal-êd.
48 “Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd
49 Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd.
50 Os gwnei di gam-drin fy merched i, neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.”