5 Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi.
6 Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad.
7 Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi.
8 Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di, roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.’
9 Felly Duw oedd yn rhoi anifeiliaid eich tad i mi.
10 “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion.
11 A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau.