50 Os gwnei di gam-drin fy merched i, neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.”
51 Ac meddai, “Mae'r garnedd yma a'r golofn yma wedi eu gosod rhyngon ni.
52 Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a dwyt ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi.
53 Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli.
54 A dyma Jacob yn cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos.
55 Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre.