10 “Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw – rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi.
11 Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn.
12 Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.”
13 Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw.
14 Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di – mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.”
15 “Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.”
16 Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw.