14 Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di – mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.”
15 “Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.”
16 Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw.
17 Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth.
18 Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre.
19 Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian.
20 Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel.