2 Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf.
3 Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd.
4 Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crïo.
5 Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.”
6 Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu.
7 Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
8 “Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.”