1 Aeth Dina (merch Lea a Jacob) allan i weld rhai o ferched ifanc yr ardal.
2 Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a'i threisio.
3 Ond wedyn syrthiodd yn ddwfn mewn cariad â hi a cheisiodd ennill ei serch.
4 Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.”
5 Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A penderfynodd Jacob beidio dweud dim tan iddyn nhw ddod adre.
6 Dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad gyda Jacob am Dina.