12 Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.”
13 Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad.
14 Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni.
15 Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni.
16 Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl.
17 Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.”
18 Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem.