15 Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni.
16 Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl.
17 Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.”
18 Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem.
19 Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, gymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)
20 Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw:
21 “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni.