22 Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw.
23 Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.”
24 Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma bob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
25 Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd.
26 Dyma nhw'n lladd Hamor a'i fab Sechem, cymryd Dina o dŷ Sechem, a gadael.
27 Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio'r cyrff a'r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio.
28 Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas –