28 Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas –
29 popeth o werth, y gwragedd a'r plant a phopeth oedd yn eu tai.
30 “Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!”
31 Ond dyma Simeon a Lefi yn ei ateb, “Oedd hi'n iawn i'n chwaer ni gael ei thrin fel putain?”