7 Yn y cyfamser roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd.
8 Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda'r ferch. Plîs gadewch iddo ei phriodi hi.
9 Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a chewch chi briodi ein merched ni.
10 Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.”
11 Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau.
12 Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.”
13 Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad.