11 Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
12 Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”
13 Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.
14 Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.
15 Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.
16 Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.
17 Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”