13 Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.
14 Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.
15 Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.
16 Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.
17 Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”
18 A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.
19 Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef, Bethlehem).