2 Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân.
3 Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.”
4 Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
5 a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
6 Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.
7 Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.
8 A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.