24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
25 Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
26 Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher.Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.
27 Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr.
28 Roedd Isaac yn 180 oed
29 pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd yr un ffordd â'i hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.