4 Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
5 a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
6 Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.
7 Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.
8 A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.
9 A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).
10 Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.