1 Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):
2 Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad),
3 a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).
4 Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
5 a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.
6 Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.
7 Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl.