14 “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem.Pan gyrhaeddodd Sichem
15 dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro yn y wlad. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?”
16 “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?”
17 A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan.
18 Roedden nhw wedi ei weld yn dod o bell. Cyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd.
19 “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw.
20 “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i mewn i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”