2 Dyma hanes teulu Jacob:Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad.
3 Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn. Ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo.
4 Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho.
5 Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth.
6 “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw.
7 “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi ac yn sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!”
8 “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Ac roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw.