24 Ac wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i bydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)
25 Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafan o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm balm, a myrr i lawr i'r Aifft.
26 A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim trwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith.
27 Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno.
28 Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft.
29 Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno dyma fe'n rhwygo ei ddillad.
30 Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Be dw i'n mynd i'w wneud nawr?”