33 Dyma fe'n nabod y got. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!”
34 A dyma Jacob yn rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir.
35 Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crïo.
36 Yn y cyfamser roedd y Midianiaid wedi gwerthu Joseff yn yr Aifft. Cafodd ei werthu i Potiffar, un o swyddogion y Pharo a chapten ei warchodlu.