9 Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o'm blaen i.”
10 Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?”
11 Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono. Ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof.
12 Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem.
13 A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff.
14 “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem.Pan gyrhaeddodd Sichem
15 dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro yn y wlad. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?”