1 Tua'r adeg honno dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Hira.
2 Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,
3 a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.
4 Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall a'i alw yn Onan.
5 A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.
6 Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi.
7 Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw.