12 Beth amser wedyn dyma gwraig Jwda (sef merch Shwa) yn marw. Pan oedd y cyfnod i alaru drosodd, dyma Jwda a'i ffrind Hira o Adwlam yn mynd i Timna i gneifio ei ddefaid.
13 A dwedodd rhywun wrth Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith yn mynd yno.
14 Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
15 Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod hi wedi cuddio'i hwyneb.
16 Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau rhyw gyda ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda fi?”
17 “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os caf i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
18 “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.