16 Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau rhyw gyda ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda fi?”
17 “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os caf i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
18 “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.
19 Aeth i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
20 Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
21 Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain cysegr oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain cysegr yma,” medden nhw.
22 Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.”