19 Aeth i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
20 Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
21 Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain cysegr oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain cysegr yma,” medden nhw.
22 Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.”
23 “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.”
24 Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.
25 Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd piau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd piau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”