22 Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.”
23 “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.”
24 Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.
25 Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd piau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd piau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”
26 Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny.
27 Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.
28 Wrth iddi eni'r plant dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.”