10 Er ei bod hi'n gofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi.
11 Ond un diwrnod, pan aeth e i'r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno,
12 dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei got allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan.
13 Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei got
14 dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian.
15 Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei got wrth fy ymyl a dianc.”
16 Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre.