17 Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i,
18 ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei got wrth fy ymyl a dianc.”
19 Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog.
20 Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd.
21 Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi.
22 Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno.
23 Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.