4 Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal.
5 Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir.
6 Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond y bwyd roedd yn ei fwyta.Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus.
7 Roedd gwraig Potiffar yn ffansïo Joseff, ac meddai wrtho, “Tyrd i'r gwely hefo fi.”
8 Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i.
9 Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”
10 Er ei bod hi'n gofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi.