1 Beth amser wedyn, dyma brif-wetar a pen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2 Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog,
3 a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu.
4 Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.
5 Un noson dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-wetar a pen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.