12 Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen y cynrychioli tri diwrnod.
13 Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-wetar.
14 Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma.
15 Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y dwnsiwn yma.”
16 Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Ro'n i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen.
17 Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi eu pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.”
18 A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod.