19 Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
20 Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-wetar a'r pen-pobydd allan o'r carchar.
21 Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-wetar, a dechreuodd weini ar y Pharo eto.
22 Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud.
23 Ond anghofiodd y prif-wetar yn llwyr am Joseff.