1 Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma'r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth yr afon Nil,
2 a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi eu pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
3 Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw'n sefyll gyda'r gwartheg eraill ar lan yr afon Nil.
4 A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma'r Pharo'n deffro.
5 Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, rhai oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
6 A dyma saith dywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi eu crino gan wynt y dwyrain.
7 A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi.