12 Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd.
13 A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
14 Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan o'r dwnsiwn ar frys. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo.
15 A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.”
16 Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy'r unig un sy'n gallu dweud wrth y Pharo sut fydd e'n llwyddo.”
17 Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan yr afon Nil.
18 Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi eu pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.