25 Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
26 Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd.
27 Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi eu crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn.
28 Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
29 Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft.
30 Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad.
31 Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol.