27 Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi eu crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn.
28 Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
29 Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft.
30 Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad.
31 Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol.
32 Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith.
33 Felly dylai'r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft.