36 Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”
37 Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion.
38 A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.”
39 Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, maen amlwg fod neb sy'n fwy galluog a doeth na ti.
40 Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.”
41 Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.”
42 Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf.